Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 5:12-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a'i fod wedi dyrchafu ei frenhiniaeth er mwyn ei bobl Israel.

13. Wedi iddo ddod o Hebron, cymerodd Dafydd ragor o ordderchwragedd ac o wragedd o Jerwsalem; a ganed rhagor o feibion ac o ferched iddo.

14. Dyma enwau'r rhai a aned iddo yn Jerwsalem: Samua, Sobab, Nathan, Solomon,

15. Ibhar, Elisua, Neffeg, Jaffia,

16. Elisama, Eliada ac Eliffelet.

17. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar Israel, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth i lawr i'r gaer.

18. Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,

19. ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a dweud, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe roddaf y Philistiaid yn dy law.”

20. Felly aeth Dafydd i Baal-perasim, a'u taro yno. Ac meddai Dafydd, “Torrodd yr ARGLWYDD drwy fy ngelynion o'm blaen fel toriad dyfroedd.” Dyna pam yr enwodd y lle hwnnw, Baal-perasim.

21. Yr oedd y Philistiaid wedi gadael eu delwau ar ôl yno, felly dygodd Dafydd a'i wŷr hwy i ffwrdd.

22. Ymosododd y Philistiaid unwaith eto, ac ymledu dros ddyffryn Reffaim.

23. Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD a chael yr ateb, “Paid â mynd i fyny, dos ar gylch i'r tu cefn iddynt, a thyrd atynt gyferbyn â'r morwydd.

24. Yna, pan glywi sŵn cerdded ym mrig y morwydd, dos yn dy flaen, oherwydd yr adeg honno bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid.”

25. Gwnaeth Dafydd hynny, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, a tharo'r Philistiaid o Geba hyd gyrion Geser.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 5