Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Geiriau Olaf Dafydd

1. Dyma eiriau olaf Dafydd:“Oracl Dafydd fab Jesse,ie, oracl y gŵr a godwyd yn uchel,eneiniog Duw Jacob,canwr caneuon Israel.

2. “Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd drwof,a'i air ef oedd ar fy nhafod.

3. Llefarodd Duw Jacob,dywedodd craig Israel wrthyf:‘Y mae'r sawl sy'n llywodraethu pobl yn gyfiawn,yn llywodraethu yn ofn Duw,

4. fel goleuni bore pan gyfyd haular fore digwmwl,a pheri i'r gwellt ddisgleirio o'r ddaearar ôl glaw.’

5. “Yn sicr, onid felly y mae fy nheulu gyda Duw?Oherwydd gwnaeth gyfamod tragwyddol â mi,un trefnus ym mhob cymal, a diogel.Ef yw fy nghymorth i gyd a'm dymuniad;oni rydd lwyddiant i mi?

6. ‘Y mae'r dihirod i gyd fel drain a dorrir i lawr,am na ellir eu casglu â llaw.

7. Nid oes neb yn eu cyffwrddond â haearn neu goes gwaywffon,a'u llosgi'n llwyr yn y man lle maent.’ ”

Milwyr Enwog Dafydd

8. Dyma enwau'r gwroniaid oedd gan Ddafydd: Isbaal yr Hachmoniad oedd pen y Tri; chwifiodd ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben wyth gant o laddedigion ar un tro.

9. Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.

10. Safodd ei dir ac ymladd â'r Philistiaid nes i'w law ddiffygio a glynu yn ei gleddyf. Rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, a daeth y bobl yn ôl at Eleasar, ond i ysbeilio'r cyrff yn unig.

11. Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid;

12. ond safodd Samma ei dir yng nghanol y llain a'i hachub, a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.

13. Aeth tri o'r Deg ar Hugain i lawr at Ddafydd i ogof Adulam, a chyrraedd adeg y cynhaeaf, pan oedd mintai o Philistiaid wedi gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

14. Yr oedd Dafydd ar y pryd yn yr amddiffynfa, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.

15. Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem sydd ger y porth!”

16. Ar hynny rhuthrodd y Tri Gwron trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,

17. a dweud, “Na ato'r ARGLWYDD i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed gwŷr a fentrodd eu heinioes?” A gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y Tri Gwron.

18. Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o laddedigion; enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.

19. Ef yn wir oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, a bu'n gapten arnynt; ond nid oedd ymysg y Tri.

20. Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr, aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.

21. Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun.

22. Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.

23. Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.

24. Yr oedd Asahel brawd Joab ymysg y Deg ar Hugain, hefyd Elhanan fab Dodo o Fethlehem,

25. Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,

26. Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad,

27. Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,

28. Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,

29. Heleb fab Baana y Netoffathiad, Itai fab Ribai o Gibea meibion Benjamin,

30. Benaia y Pirathoniad, Hidai o Nahale-gaas,

31. Abialbon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad,

32. Eliahba y Saalboniad, Jasen y Nuniad, Jonathan fab

33. Samma yr Harariad, Ahiam fab Sarar yr Harariad,

34. Eliffelet fab Ahasbai, mab y Naachathiad, Eliam fab Ahitoffel y Giloniad,

35. Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,

36. Igal fab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,

37. Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia),

38. Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

39. Ureia yr Hethiad. Tri deg a saith i gyd.