Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Pan oedd tonnau angau yn f'amgylchynua llifeiriant distryw yn fy nal,

6. pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchua maglau angau o'm blaen,

7. gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;clywodd fy llef o'i deml,a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.

8. “Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r nefoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.

9. Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.

10. Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch dan ei draed.

11. Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.

12. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell,a chymylau duon yn orchudd.

13. O'r disgleirdeb o'i flaentasgodd cerrig tân.

14. Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.

15. Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.

16. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.

17. “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.

18. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22