Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:43-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. Fe'u maluriaf cyn faned â llwch y ddaear,a'u malu a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.

44. Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,a'm cadw yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.

45. Estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen,pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi.

46. Y mae estroniaid yn gwangalonni,ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.

47. “Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig,dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,

48. y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd danaf,

49. sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.

50. Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,a chanaf fawl i'th enw.

51. Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaethac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog,i Ddafydd ac i'w had am byth.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22