38. Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu distrywio;ni ddychwelaf nes eu difetha.
39. Yr wyf yn eu difa a'u trywanu fel na allant godi,ac y maent yn syrthio dan fy nhraed.
40. Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,a darostwng fy ngelynion danaf.
41. Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.
42. Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
43. Fe'u maluriaf cyn faned â llwch y ddaear,a'u malu a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
44. Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,a'm cadw yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
45. Estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen,pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi.
46. Y mae estroniaid yn gwangalonni,ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
47. “Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig,dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
48. y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd danaf,