Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:29-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.

30. Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.

31. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

32. “Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?A phwy sydd graig ond ein Duw ni?

33. Duw yw fy nghaer gadarn,sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.

34. Gwna fy nhraed fel rhai ewig,a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.

35. Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,i'm breichiau dynnu bwa pres.

36. Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.

37. Rhoist imi le llydan i'm camau,ac ni lithrodd fy nhraed.

38. Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu distrywio;ni ddychwelaf nes eu difetha.

39. Yr wyf yn eu difa a'u trywanu fel na allant godi,ac y maent yn syrthio dan fy nhraed.

40. Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,a darostwng fy ngelynion danaf.

41. Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22