Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

23. yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.

24. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.

25. Talodd yr ARGLWYDD imi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.

26. Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius,

27. ac yn bur i'r rhai pur;ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22