Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:13-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. O'r disgleirdeb o'i flaentasgodd cerrig tân.

14. Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.

15. Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.

16. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.

17. “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.

18. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.

19. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.

20. Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.

21. “Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.

22. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

23. yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.

24. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.

25. Talodd yr ARGLWYDD imi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.

26. Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius,

27. ac yn bur i'r rhai pur;ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.

28. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22