Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. O'r disgleirdeb o'i flaentasgodd cerrig tân.

14. Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.

15. Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.

16. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.

17. “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.

18. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.

19. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.

20. Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.

21. “Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.

22. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

23. yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.

24. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22