12. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell,a chymylau duon yn orchudd.
13. O'r disgleirdeb o'i flaentasgodd cerrig tân.
14. Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.
15. Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
16. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.
17. “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
18. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.
19. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
20. Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.