Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Llefarodd Dafydd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion ac o law Saul,

2. a dywedodd:“Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;

3. fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf,fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer,fy noddfa, a'm hachubwr sy'n fy achub rhag trais.

4. “Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl,ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22