Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 21:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Ond fe ddaeth Abisai fab Serfia i'w helpu, a tharo'r Philistiad a'i ladd. Wedi hynny tyngodd milwyr Dafydd wrtho, “Ni chei fynd allan eto gyda ni i ryfel rhag diffodd lamp Israel.”

18. Ar ôl hynny bu rhyfel arall yn erbyn y Philistiaid yn Gob. Y tro hwnnw lladdwyd Saff, un arall o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad.

19. Bu rhyfel eilwaith yn Gob yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Goliath o Gath gan Elhanan fab Jaare-oregim o Fethlehem; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd.

20. Pan fu rhyfel eto yn Gath yr oedd yno gawr o ddyn â chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim.

21. Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan mab Simei brawd Dafydd.

22. Yr oedd y pedwar hyn yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 21