Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20:6-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ac meddai Dafydd wrth Abisai, “Yn awr bydd Seba fab Bichri yn creu mwy o helynt inni nag Absalom; cymer fy ngweision ac erlid ar ei ôl, rhag iddo gyrraedd dinasoedd caerog a diflannu o'n golwg.”

7. Dilynwyd Abisai gan Joab a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid a'r holl filwyr profiadol, a gadawsant Jerwsalem i erlid ar ôl Seba fab Bichri. Pan oeddent wrth y maen mawr yn Gibeon, daeth Amasa i'w cyfarfod.

8. Yr oedd Joab wedi gwregysu'r fantell yr oedd yn ei gwisgo, a throsti yr oedd gwregys ei gleddyf a oedd mewn gwain wedi ei rhwymo ar ei lwynau; ac wrth iddo symud ymlaen, fe syrthiodd y cleddyf.

9. Wedi i Joab ddweud wrth Amasa, “Sut yr wyt ti, fy mrawd?” gafaelodd â'i law dde ym marf Amasa i'w gusanu.

10. Nid oedd Amasa wedi sylwi ar y cleddyf oedd yn llaw Joab, a thrawodd Joab ef yn ei fol nes i'w ymysgaroedd ddisgyn i'r llawr, a bu farw heb ail ergyd. Yna aeth Joab a'i frawd Abisai yn eu blaen ar ôl Seba fab Bichri.

11. Safodd un o lanciau Joab wrth y corff a dweud, “Pwy bynnag sy'n fodlon ar Joab, a phwy bynnag sydd o blaid Dafydd, canlynwch Joab.”

12. Yr oedd Amasa'n gorwedd yn bentwr gwaedlyd ar ganol yr heol, a phan welodd y dyn fod y bobl i gyd yn sefyll, symudodd Amasa o'r heol i'r cae a bwrw dilledyn drosto.

13. Yr oedd pawb a ddôi heibio wedi bod yn sefyll wrth ei weld; ond wedi iddo gael ei symud o'r heol, yr oedd pawb yn dilyn Joab i erlid ar ôl Seba fab Bichri.

14. Aeth Seba trwy holl lwythau Israel nes cyrraedd Abel-beth-maacha, ac ymgasglodd yr holl Bichriaid a'i ddilyn.

15. Pan gyrhaeddodd holl fyddin Joab, rhoesant warchae arno yn Abel-beth-maacha a chodi gwarchglawdd yn erbyn y ddinas, a thurio i ddymchwel y mur.

16. Yna safodd gwraig ddoeth ar yr amddiffynfa a gweiddi o'r ddinas, “Gwrandewch, gwrandewch, a dywedwch wrth Joab am iddo ddod yma i mi gael siarad ag ef.”

17. Daeth yntau ati, a gofynnodd y wraig, “Ai ti yw Joab?” “Ie,” meddai yntau. Yna dywedodd hi wrtho, “Gwrando ar eiriau dy lawforwyn,” ac atebodd yntau, “Rwy'n gwrando.”

18. Ac meddai hi, “Byddent yn arfer dweud ers talwm, ‘Dim ond iddynt geisio cyngor yn Abel, a dyna ben ar y peth.’

19. Un o rai heddychol a ffyddlon Israel wyf fi, ond yr wyt ti'n ceisio distrywio dinas sy'n fam yn Israel. Pam yr wyt am ddifetha etifeddiaeth yr ARGLWYDD?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 20