Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Yr oedd pawb a ddôi heibio wedi bod yn sefyll wrth ei weld; ond wedi iddo gael ei symud o'r heol, yr oedd pawb yn dilyn Joab i erlid ar ôl Seba fab Bichri.

14. Aeth Seba trwy holl lwythau Israel nes cyrraedd Abel-beth-maacha, ac ymgasglodd yr holl Bichriaid a'i ddilyn.

15. Pan gyrhaeddodd holl fyddin Joab, rhoesant warchae arno yn Abel-beth-maacha a chodi gwarchglawdd yn erbyn y ddinas, a thurio i ddymchwel y mur.

16. Yna safodd gwraig ddoeth ar yr amddiffynfa a gweiddi o'r ddinas, “Gwrandewch, gwrandewch, a dywedwch wrth Joab am iddo ddod yma i mi gael siarad ag ef.”

17. Daeth yntau ati, a gofynnodd y wraig, “Ai ti yw Joab?” “Ie,” meddai yntau. Yna dywedodd hi wrtho, “Gwrando ar eiriau dy lawforwyn,” ac atebodd yntau, “Rwy'n gwrando.”

18. Ac meddai hi, “Byddent yn arfer dweud ers talwm, ‘Dim ond iddynt geisio cyngor yn Abel, a dyna ben ar y peth.’

19. Un o rai heddychol a ffyddlon Israel wyf fi, ond yr wyt ti'n ceisio distrywio dinas sy'n fam yn Israel. Pam yr wyt am ddifetha etifeddiaeth yr ARGLWYDD?”

20. Atebodd Joab a dweud, “Pell y bo, pell y bo oddi wrthyf! Nid wyf am ddifetha na distrywio.

21. Nid felly y mae; ond dyn o fynydd-dir Effraim, o'r enw Seba fab Bichri, sydd wedi codi yn erbyn y Brenin Dafydd; dim ond i chwi ei roi ef imi, fe adawaf y ddinas.” Dywedodd y wraig wrth Joab, “Fe deflir ei ben iti dros y mur.”

22. Yna fe aeth y wraig yn ei doethineb at yr holl bobl; torrwyd pen Seba fab Bichri a'i daflu i Joab. Seiniodd yntau'r utgorn, gadawyd y ddinas, a gwasgarodd pawb i'w cartrefi. Dychwelodd Joab i Jerwsalem at y brenin.

23. Joab oedd dros holl fyddin Israel, a Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid.

24. Adoram oedd dros y llafur gorfod, a Jehosaffat fab Ahilud oedd y cofiadur.

25. Sefa oedd yr ysgrifennydd, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 20