Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 19:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Ar hynny cododd y brenin ac eistedd yn y porth; anfonwyd neges at yr holl fyddin fod y brenin yn eistedd yn y porth, a daeth y fyddin gyfan ynghyd gerbron y brenin.Yr oedd yr Israeliaid i gyd wedi ffoi i'w cartrefi.

9. Yna dechreuodd pawb trwy holl lwythau Israel ddadlau a dweud, “Achubodd y brenin ni o afael ein gelynion, ac yn arbennig fe'n gwaredodd ni rhag y Philistiaid. Yn awr y mae wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom.

10. Ond y mae Absalom, a eneiniwyd gennym yn frenin, wedi marw yn y rhyfel; pam felly yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref?”

11. Daeth dadleuon yr Israeliaid i gyd i glustiau'r brenin yn ei dŷ, ac anfonodd at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid, iddynt ddweud wrth henuriaid Jwda, “Pam yr ydych chwi'n oedi dod â'r brenin adref?

12. Chwi yw fy nhylwyth, fy asgwrn i a'm cnawd; pam yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref?

13. Dywedwch wrth Amasa, ‘Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt tithau? Fel hyn y gwnelo Duw imi, a rhagor os nad ti o hyn ymlaen fydd capten y llu drosof yn lle Joab.’ ”

14. Enillodd galon holl wŷr Jwda'n unfryd, ac anfonasant neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a'th holl ddilynwyr.”

15. Daeth y brenin yn ôl, a phan gyrhaeddodd yr Iorddonen, yr oedd y Jwdeaid wedi cyrraedd Gilgal ar eu ffordd i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr Iorddonen.

16. Brysiodd Simei, mab Gera y Benjaminiad o Bahurim, i fynd i lawr gyda gwŷr Jwda i gyfarfod y Brenin Dafydd.

17. Daeth mil o ddynion o Benjamin gydag ef. A rhuthrodd Siba gwas teulu Saul, gyda'i bymtheg mab ac ugain gwas, i lawr at yr Iorddonen o flaen y brenin,

18. a chroesi'r rhyd i gario teulu'r brenin drosodd, er mwyn ennill ffafr yn ei olwg. Wedi i'r brenin groesi, syrthiodd Simei fab Gera o'i flaen

19. a dweud wrtho, “O f'arglwydd, paid â'm hystyried yn euog, a phaid â chofio ymddygiad gwarthus dy was y diwrnod y gadawodd f'arglwydd frenin Jerwsalem, na'i gadw mewn cof.

20. Oherwydd y mae dy was yn sylweddoli iddo bechu, ac am hynny dyma fi wedi dod yma heddiw, yn gyntaf o holl dŷ Joseff i ddod i lawr i gyfarfod f'arglwydd frenin.”

21. Ymateb Abisai fab Serfia oedd, “Oni ddylid rhoi Simei i farwolaeth am felltithio eneiniog yr ARGLWYDD?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 19