Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 19:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Hysbyswyd Joab fod y brenin yn wylo ac yn galaru am Absalom.

2. Trodd buddugoliaeth y dydd yn alar i'r holl fyddin wedi iddynt glywed y diwrnod hwnnw fod y brenin yn gofidio am ei fab.

3. Sleifiodd y fyddin i mewn i'r ddinas y diwrnod hwnnw, fel y bydd byddin sydd wedi ei chywilyddio ar ôl ffoi mewn brwydr.

4. Yr oedd y brenin yn cuddio'i wyneb ac yn gweiddi'n uchel, “Fy mab Absalom, Absalom fy mab, fy mab!”

5. Yna aeth Joab i'r ystafell at y brenin a dweud, “Yr wyt ti heddiw yn gwaradwyddo dy ddilynwyr i gyd, sef y rhai sydd wedi achub dy fywyd di heddiw, a bywydau dy feibion a'th ferched, a bywydau dy wragedd a'th ordderchwragedd.

6. Trwy ddangos cariad tuag at dy gaseion a chas at dy garedigion, yr wyt ti'n cyhoeddi heddiw nad yw dy swyddogion na'th filwyr yn ddim gennyt. Yn wir fe welaf yn awr y byddit wrth dy fodd heddiw pe byddai Absalom wedi byw a ninnau i gyd wedi marw.

7. Felly cod, dos allan a dywed air o galondid wrth dy ddilynwyr, neu, onid ei di allan atynt, tyngaf i'r ARGLWYDD, erbyn heno ni fydd gennyt yr un dyn ar ôl; a byddi mewn gwaeth trybini na dim sydd wedi digwydd iti o'th febyd hyd yn awr.”

8. Ar hynny cododd y brenin ac eistedd yn y porth; anfonwyd neges at yr holl fyddin fod y brenin yn eistedd yn y porth, a daeth y fyddin gyfan ynghyd gerbron y brenin.Yr oedd yr Israeliaid i gyd wedi ffoi i'w cartrefi.

9. Yna dechreuodd pawb trwy holl lwythau Israel ddadlau a dweud, “Achubodd y brenin ni o afael ein gelynion, ac yn arbennig fe'n gwaredodd ni rhag y Philistiaid. Yn awr y mae wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 19