Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 18:19-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, “Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion.”

20. Ond dywedodd Joab wrtho, “Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd â'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw.”

21. Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, “Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist.” Moesymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.

22. Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, “Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar ôl yr Ethiopiad.” Gofynnodd Joab, “Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges.”

23. Ond plediodd, “Sut bynnag y bydd, gad imi fynd.” Felly dywedodd wrtho, “Dos, ynteu.” Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.

24. Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.

25. Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, “Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod â neges.”

26. Fel yr oedd yn dal i agosáu, sylwodd y gwyliwr ar ddyn arall yn rhedeg, a galwodd i lawr at y porthor a dweud, “Dacw ddyn arall yn rhedeg ar ei ben ei hun.” Dywedodd y brenin, “Negesydd yw hwn eto.”

27. Yna dywedodd y gwyliwr, “Yr wyf yn gweld y cyntaf yn rhedeg yn debyg i Ahimaas fab Sadoc.” Ac meddai'r brenin, “Dyn da yw hwnnw; daw ef â newyddion da,”

28. Pan gyrhaeddodd Ahimaas, dywedodd wrth y brenin, “Heddwch!” Yna moesymgrymodd i'r brenin â'i wyneb i'r llawr, a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD dy Dduw, sydd wedi cau am y dynion a gododd yn erbyn f'arglwydd frenin.”

29. Gofynnodd y brenin, “A yw'r llanc Absalom yn iawn?” Ac meddai Ahimaas, “Yr oedd dy was yn gweld cynnwrf mawr pan anfonodd Joab, gwas y brenin, fi i ffwrdd, ond ni wn beth oedd.”

30. Dywedodd y brenin, “Saf yma o'r neilltu.” Felly safodd o'r neilltu.

31. Yna cyrhaeddodd yr Ethiopiad a dweud, “Newydd da, f'arglwydd frenin! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi achub dy gam heddiw yn erbyn yr holl rai oedd yn codi yn dy erbyn.”

32. Gofynnodd y brenin i'r Ethiopiad, “A yw'r llanc Absalom yn iawn?” Atebodd yr Ethiopiad, “Bydded i elynion f'arglwydd frenin a phawb sy'n codi yn d'erbyn er drwg, fod fel y llanc.”

33. Cynhyrfodd y brenin, ac aeth i fyny i'r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, “O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 18