Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:29-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Felly dygodd Sadoc ac Abiathar arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.

30. Dringodd Dafydd lethr Mynydd yr Olewydd dan wylo a chuddio'i ben a cherdded yn droednoeth. Yr oedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd yn dringo gan guddio'u pennau ac wylo.

31. Dywedwyd wrth Ddafydd fod Ahitoffel ymysg y cynllwynwyr gydag Absalom, a gweddïodd Dafydd, “O ARGLWYDD, tro gyngor Ahitoffel yn ffolineb.”

32. Pan gyrhaeddodd Dafydd y copa, lle byddid yn addoli Duw, dyma Husai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod â'i fantell wedi ei rhwygo a phridd ar ei ben.

33. Meddai Dafydd wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arnaf;

34. ond os ei di'n ôl i'r ddinas a dweud wrth Absalom, ‘Dy was di wyf fi, f'arglwydd frenin; gwas dy dad oeddwn gynt, ond dy was di wyf yn awr’, yna gelli ddrysu cyngor Ahitoffel drosof.

35. Bydd gennyt yr offeiriaid Sadoc ac Abiathar gyda thi yno; yr wyt i ddweud wrthynt hwy bob gair a glywi o dŷ'r brenin,

36. oherwydd y mae'r ddau fachgen, Ahimaas fab Sadoc a Jonathan fab Abiathar, yno gyda hwy, ac fe gewch anfon ataf trwyddynt hwy bob dim a glywch.”

37. Daeth Husai, cyfaill Dafydd, i'r ddinas fel yr oedd Absalom yn cyrraedd Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15