Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Yr oedd gan dy lawforwyn ddau fab, ond cwerylodd y ddau allan yn y wlad, heb neb i'w gwahanu; a thrawodd un ohonynt y llall, a'i ladd.

7. Ac yn awr y mae'r holl dylwyth wedi codi yn erbyn dy lawforwyn, a dweud, ‘Rho inni'r hwn a laddodd ei frawd, er mwyn inni ei ladd am fywyd y brawd a lofruddiodd; a difethwn yr etifedd hefyd.’ Felly byddant yn diffodd y marworyn sydd ar ôl gennyf, fel na adewir i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb daear.”

8. Dywedodd y brenin wrth y wraig, “Dos di adref, ac fe roddaf orchymyn yn dy gylch.”

9. Atebodd hithau, “Bydded yr euogrwydd arnaf fi, f'arglwydd frenin, ac ar fy nheulu i; a bydded y brenin a'i orsedd yn ddieuog.”

10. Dywedodd y brenin, “Pwy bynnag fydd yn yngan gair wrthyt, tyrd ag ef ataf fi, ac ni fydd yn dy boeni di byth mwy.”

11. Atebodd hithau, “Bydded i'r brenin ddwyn hyn i sylw'r ARGLWYDD dy Dduw, rhag i'r dialwr gwaed ddistrywio eto, a rhag iddynt ddifetha fy mab.” A dywedodd y brenin, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt pen dy fab syrthio i'r llawr.”

12. Yna dywedodd y wraig, “Gad i'th lawforwyn ddweud un gair eto wrth f'arglwydd frenin.” Dywedodd yntau, “Dywed.”

13. Ac meddai'r wraig, “Pam yr wyt wedi cynllunio fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Wrth wneud y dyfarniad hwn y mae'r brenin fel un sy'n euog ei hun, am nad yw'n galw'n ôl yr un a alltudiodd.

14. Rhaid inni oll farw; yr ydym fel dŵr a dywelltir ar lawr ac ni ellir ei gasglu eto. Nid yw Duw yn adfer bywyd, ond y mae'n cynllunio ffordd rhag i'r alltud barhau'n alltud.

15. Yn awr, y rheswm y deuthum i ddweud y neges hon wrth f'arglwydd frenin oedd fod y bobl wedi codi ofn arnaf; a phenderfynodd dy lawforwyn, ‘Fe siaradaf â'r brenin; efallai y bydd yn gwneud dymuniad ei forwyn.

16. Y mae'n siŵr y gwrendy'r brenin, ac y bydd yn achub ei lawforwyn o law'r sawl sydd am fy nistrywio i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.’

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14