Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:13-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ac meddai'r wraig, “Pam yr wyt wedi cynllunio fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Wrth wneud y dyfarniad hwn y mae'r brenin fel un sy'n euog ei hun, am nad yw'n galw'n ôl yr un a alltudiodd.

14. Rhaid inni oll farw; yr ydym fel dŵr a dywelltir ar lawr ac ni ellir ei gasglu eto. Nid yw Duw yn adfer bywyd, ond y mae'n cynllunio ffordd rhag i'r alltud barhau'n alltud.

15. Yn awr, y rheswm y deuthum i ddweud y neges hon wrth f'arglwydd frenin oedd fod y bobl wedi codi ofn arnaf; a phenderfynodd dy lawforwyn, ‘Fe siaradaf â'r brenin; efallai y bydd yn gwneud dymuniad ei forwyn.

16. Y mae'n siŵr y gwrendy'r brenin, ac y bydd yn achub ei lawforwyn o law'r sawl sydd am fy nistrywio i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.’

17. Meddyliodd dy lawforwyn hefyd y byddai gair f'arglwydd frenin yn gysur, oherwydd y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw, yn medru dirnad rhwng da a drwg. Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw gyda thi.”

18. Dywedodd y brenin wrth y wraig, “Paid â chelu oddi wrthyf un peth yr wyf am ei ofyn iti.” Atebodd hithau, “Gofyn di, f'arglwydd frenin.”

19. Yna gofynnodd y brenin, “A yw llaw Joab gyda thi yn hyn i gyd?” Atebodd y wraig, “Cyn wired â bod f'arglwydd frenin yn fyw, nid oes modd osgoi yr hyn a ddywedodd f'arglwydd frenin, ie, dy was Joab a roddodd orchymyn imi, ac ef a osododd y geiriau hyn i gyd yng ngenau dy lawforwyn.

20. Er mwyn rhoi agwedd wahanol ar y peth y gwnaeth dy was Joab hyn, ond y mae f'arglwydd cyn galled ag angel Duw i ddeall popeth ar wyneb daear.”

21. Dywedodd y brenin wrth Joab, “Edrych, yr wyf am wneud hyn; felly, dos a thyrd â'r llanc Absalom yn ôl.”

22. Syrthiodd Joab ar ei wyneb i'r llawr, a moesymgrymodd a bendithio'r brenin, a dweud, “Fe ŵyr dy was heddiw imi ennill ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin, am iti wneud dymuniad dy was.”

23. Aeth Joab ar unwaith i Gesur, a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.

24. Ond dywedodd y brenin, “Aed i'w dŷ ei hun; ni chaiff weld fy wyneb i.” Felly aeth Absalom i'w dŷ ac ni welodd wyneb y brenin.

25. Trwy Israel gyfan nid oedd neb y gellid ei ganmol am ei harddwch fel Absalom; nid oedd mefl arno o wadn ei droed hyd ei gorun.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14