Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 12:21-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Gofynnodd ei weision iddo, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud? Tra oedd y plentyn yn fyw, yr oeddit yn ymprydio ac yn wylo; ond wedi i'r plentyn farw, yr wyt wedi codi a bwyta.”

22. Eglurodd yntau, “Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw, yr oeddwn yn ymprydio ac yn wylo am fy mod yn meddwl, ‘Pwy a ŵyr a fydd yr ARGLWYDD yn trugarhau wrthyf, ac y bydd y plentyn fyw?’

23. Ond erbyn hyn y mae wedi marw; pam felly y dylwn ymprydio? A fedraf fi ddod ag ef yn ôl? Byddaf fi'n mynd ato ef, ond ni ddaw ef yn ôl ataf fi.”

24. Cysurodd Dafydd ei wraig Bathseba, ac aeth i mewn ati a gorwedd gyda hi; esgorodd hithau ar fab, a'i alw'n Solomon. Hoffodd yr ARGLWYDD ef,

25. ac anfonodd neges drwy law'r proffwyd Nathan i'w enwi yn Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.

26. Ymosododd Joab ar Rabba'r Ammoniaid, a chipiodd ddinas y brenin.

27. Anfonodd Joab negeswyr at Ddafydd a dweud, “Yr wyf wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio'r gronfa ddŵr.

28. Yn awr, casgla weddill y fyddin a gwersylla yn erbyn y ddinas a'i hennill, rhag i mi gipio'r ddinas ac iddi gael ei galw ar f'enw i.”

29. Casglodd Dafydd y fyddin gyfan, ac aeth i Rabba ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill.

30. Cymerodd goron eu brenin oddi ar ei ben—yr oedd yn pwyso talent o aur, a gem gwerthfawr ynddi—a rhoed hi ar ben Dafydd. Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail,

31. ac aeth â'r bobl oedd ynddi a'u gosod i lafurio â llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill heyrn, a hefyd i weithio priddfeini. Gwnaeth Dafydd yr un modd â holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 12