4. Dywedodd Dafydd wrtho, “Dywed wrthyf sut y bu pethau.” Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw.
5. Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, “Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?”
6. Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, “Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano.
7. Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. ‘Dyma fi,’ meddwn innau.
8. Gofynnodd i mi, ‘Pwy wyt ti?’ Atebais innau, ‘Amaleciad.’
9. Yna dywedodd wrthyf, ‘Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.’
10. Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum â hwy yma at f'arglwydd.”
11. Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd;
12. a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thÅ· Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf.
13. Holodd Dafydd y llanc a ddaeth â'r newydd, “Un o ble wyt ti?” Atebodd yntau, “Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi.”
14. Ac meddai Dafydd wrtho, “Sut na fyddai arnat ofn estyn dy law i ddistrywio eneiniog yr ARGLWYDD?”
15. Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, “Tyrd, rho ergyd iddo!” Trawodd yntau ef, a bu farw.