8. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar ei orseddfainc yn frenin iddo. Am i'th Dduw garu Israel a'i sefydlu am byth, y mae wedi dy wneud di'n frenin arnynt, i weinyddu barn a chyfiawnder.”
9. Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni fu erioed y fath beraroglau â'r rhai a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.
10. Byddai gweision Hiram a gweision Solomon yn dod ag aur o Offir; byddent hefyd yn cludo llawer iawn o goed almug a gemau.
11. Gwnaeth y brenin risiau ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun allan o'r coed almug, a hefyd gwnaeth i'r cantorion delynau a nablau na welwyd eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.
12. Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwenychodd, mwy nag a ddug hi iddo ef. Yna troes hi a'i gosgordd yn ôl i'w gwlad.
13. Yr oedd pwysau'r aur a ddôi i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau,
14. heblaw yr hyn a gâi gan y marchnadwyr a'r masnachwyr; hefyd fe ddôi holl frenhinoedd Arabia a rheolwyr y taleithiau ag aur ac arian iddo.
15. Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chan sicl o aur gyr ym mhob tarian.
16. Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un;
17. a rhoddodd y brenin hwy yn Nhŷ Coedwig Lebanon. Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro ag aur coeth.