Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 8:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas ar gyfer ei waith; hwy oedd ei filwyr, ei gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,

10. a hwy hefyd oedd prif arolygwyr y Brenin Solomon—dau gant a hanner ohonynt, yn rheoli'r bobl.

11. Daeth Solomon â merch Pharo i fyny o Ddinas Dafydd i'r tŷ a gododd iddi, oherwydd dywedodd, “Ni chaiff fy ngwraig i fyw yn nhŷ Dafydd brenin Israel, am fod pob man yr aeth arch yr ARGLWYDD iddo yn gysegredig.”

12. Yna fe offrymodd Solomon boethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, a gododd o flaen y porth.

13. Offrymai yn unol â'r gofynion dyddiol a orchmynnodd Moses ynglŷn â'r Sabothau, y newydd-loerau a'r tair gŵyl flynyddol arbennig, sef gŵyl y Bara Croyw, gŵyl yr Wythnosau a gŵyl y Pebyll.

14. Ac yn unol â threfn ei dad Dafydd, fe osododd yr offeiriaid mewn dosbarthiadau ar gyfer gwasanaethu, a'r Lefiaid ar ddyletswydd i ganu mawl ac i wasanaethu'r offeiriaid yn feunyddiol yn ôl y gofyn, a'r porthorion mewn dosbarthiadau wrth bob porth, oherwydd dyma orchymyn Dafydd, gŵr Duw.

15. Nid anghofiwyd gorchymyn y brenin i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglŷn â'r trysordai, na dim arall.

16. Felly cyflawnwyd holl waith Solomon, o'r dydd y gosodwyd sylfaen tŷ'r ARGLWYDD nes ei gwblhau; a gorffennwyd tŷ'r ARGLWYDD.

17. Yna aeth Solomon i Esion-geber ac i Elath, sydd ar lan y môr yng ngwlad Edom.

18. Anfonodd Hiram longau iddo gyda'i weision oedd yn forwyr profiadol, ac aethant gyda gweision Solomon i Offir, a dod â phedwar cant a hanner o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 8