Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 8:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar derfyn yr ugain mlynedd a gymerodd Solomon i adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun,

2. fe ailadeiladodd y dinasoedd a roddodd Hiram iddo, a rhoi Israeliaid i fyw ynddynt.

3. Aeth Solomon i Hamath-soba a'i gorchfygu,

4. ac fe ailadeiladodd Tadmor yn y diffeithwch, a'r holl ddinasoedd stôr yr oedd wedi eu hadeiladu yn Hamath.

5. Fe adeiladodd Beth-horon Uchaf a Beth-horon Isaf yn ddinasoedd caerog â muriau, dorau a barrau,

6. hefyd Baalath a'r holl ddinasoedd stôr oedd gan Solomon, a'r holl ddinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall y dymunai ei adeiladu, p'run ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.

7. Gorfodwyd llafur oddi wrth holl weddill poblogaeth yr Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, nad oeddent yn perthyn i'r Israeliaid.

8. Yr oedd disgynyddion y rhain wedi eu gadael ar ôl yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa; arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 8