13. Os byddaf wedi cau'r nefoedd fel na fydd glaw, neu orchymyn i'r locustiaid ddifa'r ddaear, neu anfon pla ar fy mhobl,
14. ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad.
15. Bydd fy llygaid yn sylwi a'm clustiau yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn.
16. Yr wyf wedi dewis a sancteiddio'r tŷ hwn, i'm henw fod yno am byth; yno hefyd y bydd fy llygaid a'm calon hyd byth.
17. Os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,
18. yna sicrhaf dy orsedd frenhinol fel yr addewais i'th dad Dafydd gan ddweud, ‘Ni fyddi heb ŵr i lywodraethu Israel.’
19. Ond os byddwch chwi'n gwrthgilio ac yn gwrthod fy ordinhadau a'm gorchmynion, a osodais o'ch blaen, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,
20. yna fe ddiwreiddiaf Israel o'm gwlad, a roddais iddynt, a bwriaf o'm golwg y tŷ a gysegrais i'm henw, a'i wneud yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.
21. Bydd y tŷ hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu ac yn dweud, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tŷ hwn?’
22. A dywedir, ‘Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a ddaeth â hwy o wlad yr Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd ef yr holl ddrwg yma arnynt.’ ”