Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 6:28-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. “Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelynion yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd—beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd—

29. clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan unrhyw un a chan bob un o'th bobl Israel sy'n ymwybodol o'i glwy ei hun a'i boen, ac yn estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn;

30. gwrando hefyd o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau, a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod pob calon ddynol;

31. felly byddant yn dy ofni ac yn rhodio yn dy ffyrdd holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.

32. “Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw mawr a'th law gref a'th fraich estynedig, a gweddïo tua'r tŷ hwn,

33. gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn ôl y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath â'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i.

34. “Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela â'u gelynion, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt weddïo arnat tua'r ddinas hon a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,

35. gwrando di o'r nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos.

36. “Os pechant yn d'erbyn—oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu—a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad bell neu agos,

37. ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat yng ngwlad eu caethiwed â'r geiriau, ‘Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni’,

38. ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad eu caethiwed lle y cawsant eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 6