Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 6:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna dywedodd Solomon:“Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch.

2. Adeiledais innau i ti dŷ aruchel,a lle iti breswylio ynddo dros byth.”

3. Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, troes y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel.

4. Dywedodd: “Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd â'i law yr hyn a addawodd â'i enau wrth fy nhad Dafydd, pan ddywedodd,

5. ‘Er y dydd y dygais fy mhobl o wlad yr Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi dŷ i'm henw fod yno, ac ni ddewisais neb i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.

6. Ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.’

7. Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel,

8. ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Yr oedd yn dy fryd adeiladu tŷ i'm henw, a da oedd dy fwriad,

9. ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tŷ; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tŷ i'm henw.’

10. Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel.

11. Yr wyf hefyd wedi gosod yno yr arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â phobl Israel.”

12. Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, a chodi ei ddwylo.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 6