Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 35:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Cadwodd Joseia Basg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; lladdasant oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

2. Gosododd yr offeiriaid ar ddyletswydd, a'u hannog i wasanaethu yn nhŷ yr ARGLWYDD.

3. Dywedodd wrth y Lefiaid oedd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD ac yn dysgu holl Israel, “Rhowch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon fab Dafydd, brenin Israel; nid ydych i'w chario ar eich ysgwyddau. Yn awr, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel.

4. Paratowch eich hunain fesul teulu yn ôl eich dosbarthiadau, fel yr ysgrifennodd Dafydd brenin Israel a'i fab Solomon.

5. Safwch yn y cysegr dros eich pobl leyg fesul teulu yn ôl eich dosbarthiadau; y mae gan y Lefiaid gyfran ym mhob teulu.

6. Lladdwch oen y Pasg; ymgysegrwch a pharatoi, er mwyn i'ch pobl wneud yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy Moses.”

7. Rhoddodd Joseia i'r holl bobl oedd yn bresennol ddeng mil ar hugain o ddefaid, sef ŵyn a mynnod, a thair mil o ychen ar gyfer y Pasg; daeth y cwbl o'r drysorfa frenhinol.

8. Hefyd, rhoddodd ei swyddogion o'u gwirfodd i'r bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Hilceia, Sechareia a Jehiel, prif swyddogion tŷ Dduw, ddwy fil a chwe chant o ddefaid a thri chant o ychen i'r offeiriaid ar gyfer y Pasg.

9. A rhoddodd Cononeia a'i frodyr Semaia a Nethaneel, a Hasabeia, Jehiel a Josabad, swyddogion y Lefiaid, bum mil o ddefaid a phum cant o ychen ar gyfer y Pasg.

10. Felly paratowyd y gwasanaeth, a safodd yr offeiriaid yn eu lle a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 35