Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 34:8-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar ôl puro'r wlad a'r deml, anfonodd Saffan fab Asaleia, Maaseia rheolwr y ddinas a Joa fab Joahas y cofiadur i atgyweirio tŷ'r ARGLWYDD ei Dduw.

9. Pan ddaethant at Hilceia yr archoffeiriad rhoesant iddo'r arian a ddygwyd i dŷ Dduw ac a gasglodd y Lefiaid, ceidwaid y drws, oddi wrth Manasse ac Effraim a gweddill Israel, ac o holl Jwda, Benjamin a thrigolion Jerwsalem.

10. Yna rhoddwyd ef i'r goruchwylwyr oedd yn gofalu am dŷ'r ARGLWYDD; rhoddasant hwythau ef i'r gweithwyr oedd yn gweithio yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yn atgyweirio'i agennau.

11. Fe'i rhoesant hefyd i'r seiri a'r adeiladwyr i brynu cerrig nadd a choed ar gyfer distiau a thrawstiau i'r adeiladau yr oedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso.

12. Yr oedd y dynion yn gweithio'n ddiwyd dan oruchwyliaeth y Lefiaid oedd yn eu hannog, sef Jahath ac Obadeia o feibion Merari, a Sechareia a Mesulam o feibion y Cohathiaid. Ac yr oedd y Lefiaid, pob un a fedrai ganu offeryn cerdd,

13. hefyd yn gofalu am y cludwyr ac yn arolygu pob gweithiwr, beth bynnag oedd ei waith. Yr oedd rhai o'r Lefiaid hefyd yn ysgrifenyddion, swyddogion a phorthorion.

14. Wrth iddynt ddwyn allan yr arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD, darganfu Hilceia'r offeiriad lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, a roddwyd trwy Moses.

15. Dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, “Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD.” A rhoddodd y llyfr i Saffan.

16. Aeth Saffan â'r llyfr at y brenin a'r un pryd rhoi adroddiad iddo a dweud, “Y mae dy weision yn gwneud y cwbl a orchmynnwyd iddynt.

17. Y maent wedi cyfrif yr arian oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD ac wedi ei drosglwyddo i'r ymgymerwyr a'r gweithwyr.”

18. Ac ychwanegodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin, “Rhoddodd Hilceia'r offeiriad lyfr imi”; a darllenodd Saffan ef i'r brenin.

19. Pan glywodd y brenin gynnwys y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,

20. a gorchmynnodd i Hilceia ac i Ahicam fab Saffan, ac i Abdon fab Nicha, ac i Saffan yr ysgrifennydd ac i Asaia gwas y brenin,

21. “Ewch i ymgynghori â'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran pawb sydd ar ôl yn Israel a Jwda, ynglŷn â chynnwys y llyfr a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na chadwodd ein hynafiaid air yr ARGLWYDD na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn.”

22. Yna aeth Hilceia, a'r rhai a orchmynnodd y brenin, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges,

23. dywedodd hi wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dywedwch wrth y gŵr a'ch anfonodd ataf,

24. ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn dwyn drwg ar y lle hwn a'i drigolion, sef yr holl felltithion sy'n ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenwyd yng ngŵydd brenin Jwda,

25. am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wnânt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir.’

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 34