Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 34:32-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Jerwsalem a Benjamin gadw'r cyfamod. Yna cadwodd trigolion Jerwsalem gyfamod Duw, Duw eu hynafiaid.

33. Felly tynnodd Joseia ymaith bob ffieidd-dra o'r holl diriogaeth oedd yn perthyn i'r Israeliaid, a gwnaeth i bawb oedd yn byw yn Israel wasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw. Yn ei gyfnod ef ni throesant oddi ar ôl yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 34