Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 32:20-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Oherwydd hyn gweddïodd y Brenin Heseceia a'r proffwyd Eseia fab Amos â llef uchel tua'r nefoedd.

21. Ac anfonodd yr ARGLWYDD angel a lladd pob gwron, arweinydd a chapten yng ngwersyll brenin Asyria. Dychwelodd yntau mewn cywilydd i'w wlad. A phan aeth i dŷ ei dduw, lladdwyd ef yno â'r cleddyf gan rai o'i blant ei hun.

22. Felly gwaredodd yr ARGLWYDD Heseceia a thrigolion Jerwsalem o afael Senacherib brenin Asyria ac o afael eu holl elynion; amddiffynnodd hwy rhag pawb o'u hamgylch.

23. Daeth llawer i Jerwsalem gydag offrymau i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda. Ac ar ôl hynny cafodd y brenin ei barchu gan yr holl genhedloedd.

24. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD. Atebodd yntau ef trwy roi arwydd iddo.

25. Ond am ei fod yn falch, ni werthfawrogodd Heseceia yr hyn a wnaed iddo, a daeth llid Duw arno ef ac ar Jwda a Jerwsalem.

26. Yna, edifarhaodd Heseceia am ei falchder, a phobl Jerwsalem gydag ef, ac ni ddaeth llid yr ARGLWYDD arnynt wedyn yng nghyfnod Heseceia.

27. Yr oedd gan Heseceia olud a chyfoeth mawr iawn, a gwnaeth iddo'i hun drysordai ar gyfer arian ac aur, meini gwerthfawr, peraroglau, tarianau a phob math o bethau godidog.

28. Gwnaeth ysguboriau i'r cynhaeaf gwenith, gwin ac olew, a hefyd stablau i bob math o anifail, a chorlannau i ddiadellau.

29. Adeiladodd ddinasoedd iddo'i hun, a phrynodd lawer o ddefaid a gwartheg, oherwydd rhoddodd Duw olud mawr iawn iddo.

30. Heseceia oedd yr un a gaeodd darddiad uchaf dyfroedd Gihon, a'u cyfeirio i lawr tua'r gorllewin i Ddinas Dafydd. Bu Heseceia'n llwyddiannus ym mhopeth a wnaeth.

31. Hyd yn oed pan anfonwyd negeswyr ato gan swyddogion Babilon i holi ynghylch yr arwydd a welwyd yn y wlad, gadawodd Duw lonydd iddo er mwyn ei brofi a gwybod y cwbl oedd yn ei galon.

32. Am weddill hanes Heseceia, a'i deyrngarwch, y mae wedi ei ysgrifennu yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos, yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

33. Bu farw Heseceia, ac fe'i claddwyd ar y bryn lle mae beddau disgynyddion Dafydd. Pan fu farw, talodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem deyrnged iddo, a daeth ei fab Manasse yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 32