Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 30:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Cadwodd yr Israeliaid oedd yn Jerwsalem ŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod â llawenydd mawr, ac yr oedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moliannu'r ARGLWYDD yn feunyddiol ag offer soniarus yn perthyn i'r ARGLWYDD.

22. Calonogodd Heseceia bob un o'r Lefiaid oedd yn gyfrifol am ddysgu ffyrdd daionus yr ARGLWYDD. Yna, am saith diwrnod yr ŵyl bu pawb yn gwledda, yn aberthu heddoffrymau ac yn diolch i ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.

23. Cytunodd yr holl gynulleidfa i gadw'r ŵyl am saith diwrnod arall, ac fe wnaethant hynny'n llawen.

24. Darparodd Heseceia brenin Jwda fil o fustych a saith mil o ddefaid i'r gynulleidfa, a rhoddodd y swyddogion fil o fustych a deng mil o ddefaid iddynt. Yna ymgysegrodd llawer iawn o'r offeiriaid.

25. Llawenhaodd holl gynulleidfa Jwda, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a'r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, gan gynnwys y dieithriaid oedd wedi dod o wlad Israel, a thrigolion Jwda.

26. Felly bu llawenydd mawr yn Jerwsalem, na fu ei debyg yno er dyddiau Solomon fab Dafydd, brenin Israel.

27. Yna safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid i fendithio'r bobl; gwrandawodd Duw ar eu llef, ac esgynnodd eu gweddi i'w breswylfa sanctaidd yn y nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 30