Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 30:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Dechreusant symud ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem, ac aethant â'r holl allorau arogldarth a'u taflu i nant Cidron.

15. Yna, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, lladdasant oen y Pasg. Cywilyddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid am hyn; ac wedi iddynt ymgysegru, daethant â phoethoffrymau i dŷ'r ARGLWYDD.

16. Safasant yn eu lle arferol yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw, a lluchiodd yr offeiriaid y gwaed a gawsant gan y Lefiaid.

17. Am fod llawer yn y gynulleidfa heb ymgysegru, yr oedd y Lefiaid yn lladd oen y Pasg dros bawb halogedig, er mwyn eu cysegru i'r ARGLWYDD.

18. Oherwydd yr oedd nifer mawr o bobl, llawer ohonynt o Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon, heb ymgysegru, ac felly'n bwyta'r Pasg yn groes i'r rheol. Ond gweddïodd Heseceia drostynt a dweud,

19. “Bydded i'r ARGLWYDD da faddau i bob un a roes ei fryd ar geisio Duw, sef ARGLWYDD Dduw ei dadau, er nad yw wedi gwneud hynny yn ôl defod puredigaeth y cysegr.”

20. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Heseceia, ac fe iachaodd y bobl.

21. Cadwodd yr Israeliaid oedd yn Jerwsalem ŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod â llawenydd mawr, ac yr oedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moliannu'r ARGLWYDD yn feunyddiol ag offer soniarus yn perthyn i'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 30