1. Anfonodd Heseceia negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ac ysgrifennu llythyrau at Effraim a Manasse i'w gwahodd i ddod i gadw Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn nhÅ·'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
2. Yr oedd y brenin a'i swyddogion a'r holl gynulleidfa yn Jerwsalem wedi cytuno i gadw'r Pasg yn yr ail fis,
3. oherwydd ni allent ei gadw ar yr amser priodol am nad oedd digon o offeiriaid wedi ymgysegru, ac am nad oedd y bobl wedi ymgasglu yn Jerwsalem.
4. Yr oedd y brenin a'r holl gynulleidfa yn gweld y cynllun yn un da.
5. Felly gorchmynasant gyhoeddi trwy Israel gyfan, o Beerseba i Dan, fod pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel; oherwydd nid oeddent wedi ei gadw yn ôl y drefn ysgrifenedig ers amser maith.
6. Aeth negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ar orchymyn y brenin, gyda llythyrau oddi wrtho ef a'i swyddogion, yn dweud, “Bobl Israel, dychwelwch at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, ac fe ddychwel yntau at y gweddill ohonoch chwi a ddihangodd o law brenhinoedd Asyria.