Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 3:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Ugain cufydd oedd hyd adenydd y cerwbiaid; yr oedd aden un ohonynt yn bum cufydd ac yn cyffwrdd pared y gafell, a'r aden arall yn bum cufydd ac yn cyffwrdd aden yr ail gerwb.

12. Yr oedd aden yr ail gerwb yn bum cufydd ac yn cyffwrdd pared y gafell, a'r aden arall yn bum cufydd ac yn cydio wrth aden y cerwb cyntaf.

13. Yr oedd adenydd y cerwbiaid hyn yn ymestyn ugain cufydd. Yr oedd y cerwbiaid hyn yn sefyll ar eu traed yn wynebu at i mewn.

14. Gwnaeth y llen o borffor ac ysgarlad, sidan glas a lliain main, gyda brodwaith o gerwbiaid arni.

15. O flaen y gafell gosododd ddwy golofn o bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a chnap o bum cufydd ar ben pob un.

16. Gwnaeth rwydwaith ar ffurf cadwyn a'i osod ar ben y colofnau, a chant o bomgranadau i'w addurno.

17. Gosododd y colofnau o flaen y deml, un ar y dde a'r llall ar y chwith; fe alwodd yr un ar y dde yn Jachin a'r un ar y chwith yn Boas.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 3