1. Dechreuodd Solomon adeiladu tŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem ar Fynydd Moreia, lle'r oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos i'w dad Dafydd. Yr oedd ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad, y lle a baratowyd gan Ddafydd.
2. Dechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o'r ail fis ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad.
3. Dyma fesurau'r sylfeini a osododd Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw: yr hyd, yn ôl yr hen fesur, yn drigain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.
4. Yr oedd y cyntedd o flaen y tŷ yr un hyd â lled y tŷ, ugain cufydd, a'i uchder yn ugain cufydd; ac fe'i goreurodd oddi mewn ag aur pur.
5. Byrddiodd y brif gafell â ffynidwydd, a'i thaenu ag aur coeth, gyda cherfiadau o balmwydd a chadwynau arno.
6. Addurnodd y gafell â meini gwerthfawr i'w harddu, gan ddefnyddio aur o Parfaim.
7. Taenodd drawstiau, rhiniogau, parwydydd a drysau'r gafell ag aur, a cherfio cerwbiaid ar y parwydydd.