5. a dweud wrthynt, “Lefiaid, gwrandewch arnaf fi. Ymgysegrwch yn awr, a chysegrwch dŷ'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, a dewch â phob aflendid allan o'r cysegr.
6. Oherwydd troseddodd ein hynafiaid, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ei wrthod, a throi oddi wrth babell yr ARGLWYDD a chefnu arni.
7. Hefyd caeasant ddrysau'r cyntedd a diffodd y lampau; peidiasant ag arogldarthu ac offrymu poethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel.
8. Felly daeth llid yr ARGLWYDD ar Jwda a Jerwsalem a'u gwneud yn destun arswyd, syndod a gwatwar, fel y gwelwch â'ch llygaid eich hun.
9. Ystyriwch fel y syrthiodd ein hynafiaid trwy fin y cleddyf, ac fel yr aeth ein meibion, ein merched a'n gwragedd i gaethiwed o achos hyn.
10. Yn awr, yr wyf â'm bryd ar wneud cyfamod â'r ARGLWYDD, Duw Israel, er mwyn troi ei lid tanbaid oddi wrthym.
11. Felly, gymrodyr, peidiwch â bod yn esgeulus, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi i sefyll ger ei fron er mwyn gweini arno ac arogldarthu iddo.”
12. Yna cododd y Lefiaid, sef Mahath fab Amasai a Joel fab Asareia o deulu'r Cohathiaid, Cis fab Abdi ac Asareia fab Jehaleleel o deulu Merari, Joa fab Simma ac Eden fab Joa o deulu'r Gersoniaid,
13. Simri a Jeiel o deulu Elisaffan, Sechareia a Mattaneia o deulu Asaff,
14. Jehiel a Simei o deulu Heman, a Semaia ac Ussiel o deulu Jeduthun.
15. Cynullasant eu cymrodyr ac ymgysegru; yna aethant i buro tŷ'r ARGLWYDD yn ôl gorchymyn y brenin trwy air yr ARGLWYDD.
16. Aeth yr offeiriaid i mewn i dŷ'r ARGLWYDD i'w buro; daethant â phopeth halogedig a oedd yn y deml allan i gwrt tŷ'r ARGLWYDD. Oddi yno aeth y Lefiaid â hwy allan i nant Cidron.
17. Dechreusant sancteiddio ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, ac erbyn yr wythfed dydd o'r mis yr oeddent wedi cyrraedd cyntedd yr ARGLWYDD. Am wyth diwrnod buont yn sancteiddio tŷ'r ARGLWYDD, a gorffen ar yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf.
18. Yna aethant i'r palas at y Brenin Heseceia, a dweud, “Yr ydym wedi puro tŷ'r ARGLWYDD drwyddo, a hefyd allor y poethoffrwm a bwrdd y bara gosod a'u holl lestri.