Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 26:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Rhoddodd yr Ammoniaid deyrnged i Usseia, ac yr oedd yn enwog hyd at derfyn yr Aifft am ei fod mor rymus.

9. Adeiladodd Usseia dyrau yn Jerwsalem wrth Borth y Gongl, Porth y Glyn a Thro'r Mur, a'u hatgyfnerthu.

10. Adeiladodd dyrau hefyd yn yr anialwch, a chloddio llawer o bydewau, am fod ganddo lawer o anifeiliaid yn y Seffela ac ar y gwastadedd; yr oedd ganddo hefyd lafurwyr a gwinllanwyr yn y mynydd-dir ac yng Ngharmel, oherwydd yr oedd yn hoff o'r tir.

11. Yr oedd gan Usseia fyddin o filwyr yn barod i'r gad, wedi eu trefnu'n rhengoedd gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia y swyddog, yn ôl cyfarwyddyd Hananeia, un o swyddogion y brenin.

12. Cyfanswm pennau-teuluoedd y gwroniaid oedd dwy fil chwe chant.

13. Dan eu gofal hwy yr oedd byddin o dri chant a saith o filoedd a phum cant o ryfelwyr nerthol i gynorthwyo'r brenin yn erbyn y gelyn.

14. Ar gyfer yr holl fyddin paratôdd Usseia darianau, gwaywffyn, helmau, llurigau, bwâu a cherrig ffyn tafl.

15. Yn Jerwsalem, gyda chymorth gweithwyr medrus, gwnaeth beiriannau ar gyfer y tyrau a'r conglau, i daflu saethau a cherrig mawr. Yr oedd yn enwog ymhell ac agos, am ei fod yn cael ei gynorthwyo'n rhyfeddol nes iddo ddod yn rymus.

16. Ond wedi iddo fynd yn rymus aeth ei falchder yn drech nag ef; troseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei Dduw trwy fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth.

17. Aeth Asareia yr offeiriad i mewn ar ei ôl gyda phedwar ugain o wŷr dewr a oedd yn offeiriaid yr ARGLWYDD.

18. Safasant o flaen y Brenin Usseia a dweud wrtho, “Nid gennyt ti, Usseia, y mae'r hawl i arogldarthu i'r ARGLWYDD, ond gan yr offeiriaid, meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu. Dos allan o'r cysegr, oherwydd troseddaist; ni chei anrhydedd gan yr ARGLWYDD Dduw.”

19. Ffromodd Usseia. Yn ei law yr oedd thuser i arogldarthu, ac fel yr oedd yn ffromi wrth yr offeiriaid fe dorrodd gwahanglwyf allan ar ei dalcen, yn ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ'r ARGLWYDD yn ymyl allor yr arogldarth.

20. Edrychodd Asareia yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid arno a gweld y gwahanglwyf ar ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno.

21. Aeth yntau allan ar frys, oherwydd i'r ARGLWYDD ei daro. A bu'r Brenin Usseia yn wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei dŷ o achos y gwahanglwyf, ac wedi ei dorri allan o dŷ'r ARGLWYDD. Daeth Jotham ei fab i oruchwylio'r palas ac i reoli pobl y wlad.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 26