Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 24:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Wedi marw Jehoiada, daeth tywysogion Jwda i dalu gwrogaeth i'r brenin, a gwrandawodd yntau arnynt.

18. Yna troesant eu cefn ar dŷ'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a gwasanaethu'r pyst Asera a'r delwau. Daeth llid Duw ar Jwda a Jerwsalem am iddynt droseddu fel hyn.

19. Ac er i'r ARGLWYDD anfon proffwydi atynt i'w harwain yn ôl ato ac i'w hargyhoeddi, ni wrandawsant arnynt.

20. Yna daeth ysbryd Duw ar Sechareia fab Jehoiada yr offeiriad, ac fe safodd gerbron y bobl a dweud, “Fel hyn y dywed Duw: ‘Pam yr ydych yn torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn ffynnu. Am i chwi droi cefn ar yr ARGLWYDD, y mae yntau wedi troi ei gefn arnoch chwi.’ ”

21. Ond gwnaethant gynllwyn yn ei erbyn, ac ar orchymyn y brenin fe'i llabyddiwyd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD.

22. Anghofiodd y Brenin Jehoas am y caredigrwydd a gafodd gan Jehoiada tad Sechareia, a lladdodd ei fab. Fel yr oedd Sechareia'n marw, dywedodd, “Bydded i'r ARGLWYDD weld, a'th alw i gyfrif.”

23. Ar ddiwedd y flwyddyn daeth byddin Syria i ryfela yn erbyn Jehoas. Daethant i Jwda a Jerwsalem, a lladd pob un o dywysogion y bobl, ac anfon eu hysbail i gyd i frenin Damascus.

24. Er i'r Syriaid ddod gyda byddin fechan, rhoddodd yr ARGLWYDD lu mawr iawn yn eu dwylo, am i'r bobl droi eu cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Felly daethant â barn ar Jehoas.

25. Ar ôl i'r Syriaid fynd ymaith, a'i adael wedi ei glwyfo'n ddrwg, cynllwyniodd ei weision ei hun yn ei erbyn i ddial am farwolaeth mab Jehoiada yr offeiriad, a lladdasant Jehoas ar ei wely. Felly bu farw, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.

26. Y rhai a gynllwyniodd yn ei erbyn oedd Sabad fab Simeath yr Ammones, a Jehosabad fab Simrith y Foabes.

27. Y mae hanes ei feibion, y llu oraclau a draddodwyd yn ei erbyn, a hanes ei waith yn atgyweirio tŷ Dduw, i gyd wedi eu hysgrifennu yn yr esboniad ar Lyfr y Brenhinoedd. Daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 24