Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 21:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Fe fyddi di dy hun yn dioddef o glefyd enbyd yn dy goluddion, clefyd fydd ymhen amser yn gwneud i'r coluddion ddisgyn allan.’ ”

16. Yna cyffrôdd yr ARGLWYDD y Philistiaid, a'r Arabiaid oedd yn byw yn ymyl yr Ethiopiaid, yn erbyn Jehoram.

17. Daethant i fyny yn erbyn Jwda ac ymosod arni, a chludo ymaith yr holl olud oedd yn nhÅ·'r brenin, yn ogystal â'i feibion a'i wragedd; ni adawyd neb ond Jehoahas, ei fab ieuengaf, ar ôl.

18. Ar ôl hyn i gyd trawodd yr ARGLWYDD ef â chlefyd marwol yn ei goluddion.

19. Ac yng nghwrs amser, wedi i ddwy flynedd ddod i ben, disgynnodd ei goluddion allan o achos y clefyd, a bu farw mewn poenau enbyd. Ni wnaeth y bobl dân er anrhydedd iddo, fel y gwnaethant i'w ragflaenwyr.

20. Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. Bu farw heb neb yn galaru amdano, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 21