Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 18:25-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. A dywedodd brenin Israel, “Ewch â Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin,

26. a dywedwch wrthynt, ‘Fel hyn y dywed y brenin: Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus.’ ”

27. Ac meddai Michea, “Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd.”

28. Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.

29. A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol.” Newidiodd brenin Israel ei wisg, ac aethant i'r frwydr.

30. Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i gapteiniaid ei gerbydau, “Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig.”

31. A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, “Hwn yn sicr yw brenin Israel.” Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd, a chynorthwyodd yr ARGLWYDD Dduw ef trwy eu hudo oddi wrtho.

32. A phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.

33. A thynnodd rhywun ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.”

34. Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i frenin Israel aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr; yna ar fachlud haul bu farw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 18