20. ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, ‘Fe'i hudaf fi ef’. Ac meddai'r ARGLWYDD, ‘Sut?’
21. Dywedodd yntau, ‘Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.’ Yna dywedodd wrtho, ‘Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.’
22. Yn awr, rhoddodd yr ARGLWYDD ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer.”
23. Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, “Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?”
24. Dywedodd Michea, “Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn.”
25. A dywedodd brenin Israel, “Ewch â Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin,
26. a dywedwch wrthynt, ‘Fel hyn y dywed y brenin: Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus.’ ”
27. Ac meddai Michea, “Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd.”
28. Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.