2. Ymhen rhai blynyddoedd fe aeth i lawr i Samaria at Ahab, a lladdodd yntau lawer o ddefaid a gwartheg iddo ef a'r bobl oedd gydag ef, a'i ddenu i ymosod ar Ramoth-gilead.
3. Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, “A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?” Atebodd yntau, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel.”
4. Ond ychwanegodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf air yr ARGLWYDD.”
5. Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, pedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, “A ddylem fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?” Dywedasant hwythau, “Dos i fyny, ac fe rydd Duw hi yn llaw'r brenin.”
6. Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?”
7. Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla. Ond y mae ef yn atgas gennyf am nad yw byth yn proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.”
8. Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.”
9. Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen.
10. Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Gyda'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ”
11. Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”
12. Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.”