Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 17:7-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad anfonodd ei dywysogion Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethaneel a Michaia i ddysgu yn ninasoedd Jwda.

8. Gyda hwy fe aeth y Lefiaid Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia, a hefyd yr offeiriaid Elisama a Jehoram.

9. Aeth y rhain i ddysgu yn Jwda, ac yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD ganddynt; teithiasant trwy holl ddinasoedd Jwda gan hyfforddi'r bobl.

10. Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat.

11. Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid â diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod.

12. Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd stôr yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda.

13. Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem,

14. wedi eu rhestru yn ôl eu tylwythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid;

15. y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd;

16. yna Amaseia fab Sichri, a oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD o'i wirfodd, gyda dau gan mil o wroniaid.

17. O Benjamin: y gwron Eliada, gyda dau gan mil yn cario bwa a tharian;

18. yna Jehosabad, gyda chant wyth deg o filoedd yn barod i ryfel.

19. Dyma'r rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, ar wahân i'r rhai a osododd ef yn y dinasoedd caerog trwy holl Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 17