3. A bu'r ARGLWYDD gyda Jehosaffat am iddo ddilyn llwybrau cynnar ei dad Dafydd a gwrthod ymofyn â'r Baalim,
4. a throi yn hytrach at Dduw ei hynafiaid a chadw ei orchmynion, a pheidio â dilyn esiampl Israel.
5. Felly, sicrhaodd yr ARGLWYDD y frenhiniaeth yn llaw Jehosaffat, ac fe roddodd holl Jwda anrhegion iddo, nes bod ganddo olud a chyfoeth mawr iawn.
6. Dilynodd yr ARGLWYDD yn ffyddlon, a hefyd fe dynnodd ymaith o Jwda yr uchelfeydd a'r delwau o Asera.
7. Yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad anfonodd ei dywysogion Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethaneel a Michaia i ddysgu yn ninasoedd Jwda.
8. Gyda hwy fe aeth y Lefiaid Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia, a hefyd yr offeiriaid Elisama a Jehoram.
9. Aeth y rhain i ddysgu yn Jwda, ac yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD ganddynt; teithiasant trwy holl ddinasoedd Jwda gan hyfforddi'r bobl.
10. Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat.
11. Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid â diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod.
12. Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd stôr yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda.
13. Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem,
14. wedi eu rhestru yn ôl eu tylwythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid;
15. y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd;