Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 17:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn lle Asa, ac fe benderfynodd ef wrthsefyll Israel.

2. Rhoddodd filwyr ym mhob un o ddinasoedd caerog Jwda, a gosod garsiynau yng ngwlad Jwda ac yn ninasoedd Effraim, sef y dinasoedd a gymerwyd gan ei dad Asa.

3. A bu'r ARGLWYDD gyda Jehosaffat am iddo ddilyn llwybrau cynnar ei dad Dafydd a gwrthod ymofyn â'r Baalim,

4. a throi yn hytrach at Dduw ei hynafiaid a chadw ei orchmynion, a pheidio â dilyn esiampl Israel.

5. Felly, sicrhaodd yr ARGLWYDD y frenhiniaeth yn llaw Jehosaffat, ac fe roddodd holl Jwda anrhegion iddo, nes bod ganddo olud a chyfoeth mawr iawn.

6. Dilynodd yr ARGLWYDD yn ffyddlon, a hefyd fe dynnodd ymaith o Jwda yr uchelfeydd a'r delwau o Asera.

7. Yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad anfonodd ei dywysogion Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethaneel a Michaia i ddysgu yn ninasoedd Jwda.

8. Gyda hwy fe aeth y Lefiaid Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia, a hefyd yr offeiriaid Elisama a Jehoram.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 17