Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 15:7-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Ond byddwch chwi'n wrol! Peidiwch â llaesu dwylo, oherwydd fe gewch wobr am eich gwaith.”

8. Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac adnewyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.

9. Casglodd ynghyd holl Jwda a Benjamin, a phob dieithryn o Effraim, Manasse a Simeon oedd yn byw gyda hwy, oherwydd yr oedd llawer iawn o Israeliaid wedi dod i lawr at Asa pan welsant fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef.

10. Daethant ynghyd i Jerwsalem yn y trydydd mis o'r bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11. Y diwrnod hwnnw aberthasant i'r ARGLWYDD saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid o'r anrhaith a ddygasant.

12. Gwnaethant gyfamod i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid â'u holl galon ac â'u holl enaid.

13. Yr oedd pwy bynnag a wrthodai geisio ARGLWYDD Dduw Israel i'w roi i farwolaeth, boed fach neu fawr, gŵr neu wraig.

14. Tyngasant i'r ARGLWYDD â llais uchel a bloedd, a thrwmpedau ac utgyrn.

15. Gorfoleddodd holl Jwda o achos y llw, am iddynt ei dyngu â'u holl galon; ceisiasant yr ARGLWYDD o'u gwirfodd, a datguddiodd yntau ei hun iddynt. Felly rhoes yr ARGLWYDD lonydd iddynt oddi amgylch.

16. Yna fe ddiswyddodd y Brenin Asa ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw yn ddarnau, a'i llosgi yn nant Cidron.

17. Ni symudwyd yr uchelfeydd o Israel; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir ar hyd ei oes.

18. Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 15