Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 15:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Yna fe ddiswyddodd y Brenin Asa ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw yn ddarnau, a'i llosgi yn nant Cidron.

17. Ni symudwyd yr uchelfeydd o Israel; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir ar hyd ei oes.

18. Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.

19. Ac ni bu rhyfel hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 15