Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 15:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth ysbryd Duw ar Asareia fab Oded,

2. ac fe aeth allan i gyfarfod Asa, a dweud wrtho, “O Asa, a holl Jwda a Benjamin, gwrandewch arnaf fi. Bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef. Os ceisiwch ef, fe'i cewch; ond os cefnwch arno, bydd yntau yn cefnu arnoch chwithau.

3. Am amser maith bu Israel heb y gwir Dduw, heb offeiriad i'w dysgu a heb gyfraith.

4. Yn eu trybini dychwelsant at ARGLWYDD Dduw Israel, a'i geisio, ac amlygodd yntau ei hun iddynt.

5. Yn y cyfnod hwnnw nid oedd heddwch i neb yn ei fywyd beunyddiol, am fod trigolion y gwledydd mewn ymrafael parhaus;

6. dinistrid cenedl gan genedl, a dinas gan ddinas, am fod Duw yn eu poeni â phob aflwydd.

7. Ond byddwch chwi'n wrol! Peidiwch â llaesu dwylo, oherwydd fe gewch wobr am eich gwaith.”

8. Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac adnewyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.

9. Casglodd ynghyd holl Jwda a Benjamin, a phob dieithryn o Effraim, Manasse a Simeon oedd yn byw gyda hwy, oherwydd yr oedd llawer iawn o Israeliaid wedi dod i lawr at Asa pan welsant fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef.

10. Daethant ynghyd i Jerwsalem yn y trydydd mis o'r bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11. Y diwrnod hwnnw aberthasant i'r ARGLWYDD saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid o'r anrhaith a ddygasant.

12. Gwnaethant gyfamod i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid â'u holl galon ac â'u holl enaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 15